
Adnoddau Cymraeg ar gael
Mae llawer o’n hadnoddau ar gael yn y Gymraeg
Mae Cymorth Cristnogol yn darparu adnoddau yn Gymraeg ar gyfer athrawon a disgyblion. Am wybodaeth pellach cysylltwch ag Eirian Samuel, Cydlynydd Addysg Cymorth Cristnogol yng Nghymru ar 029 2084 4646 neu ebostiwch esamuel@cymorth-cristnogol.org
Adnoddau yn Gymraeg ar Learn.
Gwasanaeth y mis – Gwasanaeth misol ar bwnc cyfoes yn cyfeirio at hanesion pobl ar draws y byd.
Ewch at 'Cymraeg' o dan C yn yr A-Z am restr gyflawn o'r holl adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar Learn
Mae’r fersiwn Gymraeg fel arfer i’w gweld ar yr un dudalen â’r adnodd Saesneg (Gwelir ‘English and Welsh’ yn y teitl). Pan fo llawer o adnoddau i’w lawrlwytho rhoddir tudalen gyfan i’r fersiwn Gymraeg (Gwelir ‘Welsh’ yn y teitl). Bydd adnoddau eraill yn Saesneg yn unig.








